Stori’r Tir Dyffryn Peris - Ffyrd di gymryd rhan

‘Rydym yn casglu straeon a dechrau sgyrsiau creadigol yn y gymuned i helpu i gysylltu perthnasau y gorffenol, presenol a’r dyfodol gyda’r tîr yn Nyffryn Peris.

Stori’r Tir Dyffryn Peris - Ways to take part

We are collecting stories and starting creative conversations in the community that help connect past, present and future relationships with the land in Dyffryn Peris.

 

Yr Helfa - The Gathering 11.5.24

1 Ymunwch gyda ni wrth i ni Yr Helfa yn Bethel (Neuadd Goffa) ar Dydd Sadwrn yr 11eg o Mai 2024 2-4yh, ble y gallwch ganfod be sydd wedi ei gynllunio gyda’n 10 o brosiectau, gwneud cysylltiad, cyfarfod eraill, a mwynhau bwyd, cerddoriaeth a straeon.

1 Please join us at The Gathering in Bethel (Neuadd Goffa) on Saturday 11th May 2-4pm, where you can find out what is planned with our 10 stori’r tir projects, make connections, meet others, and enjoy some food, music and stories.

 

2 Bod yn ran o gymuned Stori’r Tir Dyffryn Peris

Dyma wahoddiad i ymuno gyda’r rhestr ebostio i dderbyn diweddariadau a gwahoddiadau.

Neu rhannu syniadau/straeon/adnoddau:

Padlet

Tudalen Facebook Stori’r Tir

2 Be part of the Stori’r Tir Dyffryn Peris community

You are invited to join the mailing list to receive updates and invitations.

Or share ideas/stories/resources:

Padlet

Stori’r Tir Facebook page

 
 

3 Cynnig eich sgiliau/gwybodaeth

Rhan o Stori’r Tir ydi dod a phobl at ei gilydd gyda phrofiadau, sgiliau a gwybodaeth amrywiol i ganfod, siapio a dweud storiau’r tir yn Nyffryn Peris. Ydych chi’n gwybod am geoleg, pridd, ffermio, hanes, cymuned, rhywogaethau arbennig, cynefinoedd, afonydd, fforio, tywydd, coginio, chwarelydda? Ydych chi’n berson creadigol, yn gwnio, arlunio, darlunio, dylunio, creu ffilmiau, gwau, yn storiwr, canwr, cerddor? Ydych chi’nnabod rhan benodol o’r Dyffryn yma yn dda?

Os felly, plis gadewch i ni wybod a fe ychwanegwn chi at y rhestr o bobl gyda diddordeb (ni fydd hyn yn eich ymrwymo i unrhywbeth!)

3 Offer your skills/knowledge

Part of Stori’r Tir will be about bringing together people with different experiences, knowledge and skills to find, shape and tell the stories of the land in Dyffryn Peris. Do you know about geology, soil, farming, history, community, particular species, habitats, rivers, foraging, weather, cooking, quarrying? Are you a creative person, a sewer, artist, illustrator, designer, video-maker, knitter, storyteller, singer, musician? Do you know a particular part of Dyffryn Peris well?

If so, please let us know and we’ll add you to the list of interested people (this does not commit you to do anything!)

 

4 Ychwanegu at y casgliad!

Cyfrannwch stori neu adnodd perthnasol i Stori’r Tir mewn pa bynnag ffurf: barddoniaeth, ysgrifennu, gwnio, ffotograffiaeth, ffilm, cân, dawns, dyluniadau, arluniadau, mapiau, ffeiliau sain, llyfrau, gwefannau, teithiau cerdded….

Gall hyn gynnwys pethau y gwyddoch amdanynt,
neu wedi eu creu yn barod neu yn rywbeth newydd yr hoffech ei greu. Fe wnawn eich arddangos a rhannu pob cyfraniad gyda chydnabyddiaeth. Fe’ch gwahoddir hefyd i gyfarfod a’r cyfranwyr eraill.

 4 Add to the collection!

Contribute a story or a resource relating to Stori’r Tir in whatever form: Poetry, writing, sewing, photography, film, song, dance, drawings, paintings, maps, sound files, books, websites, walks…

This can include things you’ve already found out, done or made. Or something new that you want to create. We will feature and share all stories contributed together with acknowledgement. You will also be invited to events to meet others.

 

5 Ymgymryd a phrosiect creadigol cymunedol

Os ydych gyda diddordeb gweithio gydag o leiaf un person arall yn y Dyffryn, i ddatblygu prosiect creadigol cymunedol, gallwch wneud cais am ‘arian had’ o hyd at £500. Cewch hefyd fentor a all gefnogi siapio eich prosiect.

Byddwn yn derbyn syniadau tan 28 Mis Mawrth 2024 ymlaen. Bydd y swm a gynigir yn ddibynnol ar faint fydd yn ymgeisio.

AR GAU

5 Undertake a creative community project

If you are interested in working with at least one other person in Dyffryn Peris, to work on a creative community project, you can apply for ‘seed funding’ of up to £500. We will also give you a mentor who will support you shape your project. We will receive ideas until 28 March 2024. Amounts available will depend on how many apply.

CLOSED