Back to All Events

Rhythmau Natur: Nature Rhythms

Yn y sesiynau oedolion hyd yn hyn, dan ni wedi cael amser bendigedig yn: / In the adults sessions so far, we have had a great time:

* eistedd yng nghanol natur yn tynnu llun be' dan ni'n glywed a chanolbwyntio ar y synau bach o'n cwmpas - gan dynnu lluniau efo'n llaw dde a llaw chwith - am wahaniaeth yn y ffordd dan ni'n teimlo a'r lluniau eu hunain wrth wneud hynny! / sitting in nature and drawing what we hear, concentrating on the little sounds around us - using our right and left hand - what a difference this makes re: how we feel and the outcome on paper!
* creu masgiau i'r coed efo plant Gwerin y Coed. Edrychon ni am goeden oedden ni'n licio a chreu wyneb iddi! Maen nhw wrthi'n sychu ar hyn o bryd, ond yn fuan iawn bydd y masgiau yn cael eu rhoi ar y coed! / creating masks for the trees with the children from Gwerin y Coed. We looked for a tree we liked and created a face for it! They are drying out at the moment but will be placed on the trees soon!

Yn y sesiwn ddydd Sadwrn nesa' (isod) mi fyddan ni'n dod i ddeall rhythm a llif natur ar y llwybr darganfod (ein utopia bach ni!) - dewch a'ch llyfrau sgets a phensiliau / in the next session (below) we will be looking at the rhythm and flow of nature on the discovery path (Our utopia bach!) - bring your sketch books and pens.

Cyfarfod wrth giat Cooke’s/ meeting point by Cooke’s gate

Os dach chi methu dod i'r sesiynau - be' am i chi drio gwneud yr uchod beth bynnag yn eich hamser chi'ch hun! / If you can't make the sessions - how about you have a go at the above in your own time! Diolch, Llinos

gwefus.cymru@gmail.com

Previous
Previous
12 August

Partners' meeting

Next
Next
18 August

Cyfarfod Collaboratory Meeting