Metamorffosis
Gan Seran Dolma, Awdur Preswyl
Mewn hen iard nwyddau yn ymyl y traciau trên ar gyrion Bangor, mae byd newydd yn dod i fodolaeth. Mae gweiriau a blodau gwyllt yn gwthio’u ffordd trwy’r concrit, gwylanod yn nythu ar y tô, ac mae artistiaid wedi ymgartrefu yn y gweithdai. Mae’r lle yn flêr, ond mae’n flerwch ffyniannus, llawn dychymyg. Mae pethau yn tyfu yma, allan o bob rheolaeth. Darnau o fetel sgrap yn esblygu’n anghenfilod, teiars yn troi’n dorchau o babis duon, llechi yn arfwisg i amddiffyn corff merch. Mae pethau’n ansefydlog, yn y broses o droi’n rhywbeth arall, yn llawn potensial.
Mae gwŷl, heddiw. Metamorffosis. Rydan ni yma i greu utopias bach. Mae’r haul yn sgleinio, ac mae pobl yn dechrau cyrraedd. Mae nhw’n yn dod a’u creadigaethau. Oriel fach mewn bocs, gyda delweddau breuddwydiol - ‘the gallery of dreams’. Gosodiad bychan o hen adeilad chwarel gyda ffigyrau yn perfformio defod. Pum deg o lyfrau cywrain glas wedi eu gwneud â llaw. Lluniau o gelloedd wedi eu argraffu ar dudalen dryloew, eu torri i fynnu, eu rholio a’u troelli, eu clymu gyda weirien a’u hongian o’r nenfwd. Darluniau dyfrllyd allai fod yn gelloedd, neu’n greaduriaid môr neu’n rhywbeth o’r gofod. Gardd o gofebau diangen, gyda map. Pentref pitw, gyda choeden ffrwyth i bob cartref. Cyfres o anheddau ar goesau hir bambŵ, sy’n plygu ac yn symud ac yn siglo. Olwyn sy’n cynrychioli cyngor yr holl fodau, ac islaw hynny, cegin ble gellir paratoi swyn ar gyfer unrhyw achlysur. Fferm arnofio mewn swigen clingffilm. Fferm arall ar goesau, gydag egin go iawn yn tyfu yn y caeau bocs matsis. Pum person pitw yn cario mefusen wyllt anferthol. Casgliad o gardiau post sy’n cynrychioli sgwrs rhwng cyfranogwyr a trefnwyr y digwyddiad. Deunyddiau i bobl greu eu golygfeydd a’u cerfluniau bach eu hunain, a gwahoddiad i’w gosod o amgylch y lle, ymysg y rwbel a’r gwastraff a’r tyfiant gwyllt a’r blodau a’r celf bwriadol ac anfwriadol.
Mae dyn barfog yn plethu blodau neidr a dant y llew yn goron gyda darn o hen raff ac yn ei wisgo ar ei ben. Mae merch ifanc yn cario mynydd llwyd gyda ffrwydriad o dyfiant gwyrdd yn gorlifo o’r copa. Mae pobl yn gwneud mapiau heb edrych ar y papur. Daw bachgen ifanc â tŷ cardfwrdd sy’n rhy fach i’r holl ddodrefn y mae o wedi eu creu, felly mae’n gosod y dodrefn allan ar wal sydd wedi dymchwel, gan greu ystafell eistedd awyr agored maint un bricsen.
Dwi’n rhedeg gweithdy trawsffurfio, ble dwi’n arwain pobl trwy broses o ddadelfennu eu corff a throi yn greadur neu yn fod gwahanol. Yn ystod y penwythnos mae dau berson yn troi’n goed, dwy yn gymylau, un yn chwilen las, ac un yn forgrugyn bach coch. Mae’n rhyddhad pan mae nhw’n troi’n ôl yn bobl ac yn adrodd eu bod wedi mwynhau’r profiad. Dwi’n teimlo gwir gysylltiad gyda’r bobl hyn wrth iddyn nhw rhannu eu profiadau, fel pe bai disgrifio’r profiad o droi yn gwml neu’n goeden yn dweud rhywbeth mwy amdannyn nhw na petai nhw’n disgrifio eu bywyd pob dydd.
Mae ‘na lot o sgwrsio a chwerthin yma, hen ffrindiau a phobl sydd ond wedi cyfarfod o’r blaen ar y we, a phobl sydd erioed wedi cyfarfod o’r blaen o gwbl. Mae ‘na awyrgylch croesawgar, cynhwysol. Does ‘na ddim artistiaid hunain-bwysig efo gweledigaeth unigol, dim athrylith aruchel. Mae syniadau pawb yn ddilys, mae dychymyg pawb yr un mor wyllt, mae cyfraniad pawb yn bwysig. Dydi o ddim yn fater o ychwanegu ‘cyfranogaeth’ ar ffurflen grant i wneud i’r peth swnio’n dda. Dyma beth ydi o, dyma’r cynsail a’r canolbwynt. Ond law yn llaw gyda hynny, mae gerwinder academaidd trylwyr, ôl meddwl a darllen a dadansoddi. Mae pobl yn cyfeirio at awduron a syniadau, yn tynnu sylw at yr angen i gydnabod y gorffennol wrth ystyried y dyfodol, yn gofyn “ble mae’r celf?” - Ydi o yn y gwrthrych, neu yn y broses, neu yn y drafodaeth, neu yn y ffordd mae’r cyfarfodydd yn cael eu rhedeg, neu yn y ffordd mae pobl yn cyfathrebu gyda’u gilydd?
Dwi’n treulio dau ddiwrnod yn edrych yn fanwl iawn ar bethau bach, ac erbyn y diwedd, pan mae fy mab yn pwyntio at hên deliffôn sydd wedi colli ei gas plastig, ac yn dweud ‘sbïa castell da mae rhywun wedi gwneud’, dwi’n medru gweld yn wir, mai castell ydyw.