Stad o Feddwl – Ynys Faelog
– Neue Walisische Kunst
Gan Seran Dolma, Awdur Preswyl
Un dydd Sadwrn di-nod yn mis Tachwedd, meddiannwyd Ynys Faelog, Porthaethwy gan griw o artistiaid o dan faner ‘Neue Walisische Kunst’. Ymddengys bod y grŵp yma yn gysylltiedig â ‘Utopias Bach’ – corff niwlog arall na ellir ei disgrifio’n foddhaol ond trwy ddweud ei fod yn ‘rhywbeth celfyddydol’.
Mae amcangyfrif y niferoedd o drefedigaethwyr yn amrywio o saith i dros gant, ond mae llygaid dystion yn cytuno bod yr artistiaid wedi bod yn cario baner, uchelseinydd a chadair swyddfa, a bod rhai ohonynt o dan deg oed. Maent hefyd yn cytuno bod y plant rheiny wedi bod yn defnyddio’r uchelseinydd i ‘gadw reiat ofnadwy’, ac y dylai eu rhieni ‘wybod yn well’.
Y peth gyntaf i sylfaenwyr y wladwriaeth newydd ei wneud ar ôl eistedd ar y gwair y tu allan i’r hen gwt sinc drylliedig a fu unwaith yn weithdy trwsio cychod oedd datgan stad o argyfwng. Yna fe aethant ati i lapio’u hunain mewn tâp coch a gwyn plastig, gan greu rhyw fath o we pryf copyn argyfyngus. Rhoddwyd basport i bawb, heb ofyn am unrhyw brawf o’u genedigaeth (yn amlwg, fe’u ganed, neu fydden nhw ddim wedi bodoli o gwbl) na’u tarddiad (doedd dim ots gan y gwladwriaethwyr o ble daethai eu dinasyddion. Roedd rhai yn Gymru Pybyr, eraill yn Bybyriaid Cymreig, amryw yn Almaenwyr, neu’n Almaenyddesau, oherwydd yn wir, pobl benywaidd oedd y rhan fwyaf ohonynt. Daethai rhai yn wreiddiol o Loegr, ac eraill wedi chwythu i mewn ar y gwynt o nunlla’n benodol.
Roedd croeso i bawb, ni wrthodir pasbort i neb, waeth beth oedd eu hanes. Wedi treulio peth amser yn ystyried y mater hyn o fod mewn stad o argyfwng, a goblygiadau hynny ar gyfer yr wladwriaeth newydd, penderfynwyd. Penderfynwyd y dylid hefyd ystyried crancod, coed pîn, morgwn marw, cregyn gleision, eithin, a rhai mathau o wymon yn ddinasyddion. Cwynodd y swyddfa basbort bod gormod o waith i’w wneud yn barod, yn rhoi dogfen swyddogol i bob person o’r hil ddynol a ddigwyddai grwydro’n ddamweiniol dros y bont garreg a gysylltai’r lle a’r tir mawr. Cytunwyd y gellid hepgor y pasbort papur, a chydnabod yr egwyddor o berthyn heb unrhyw fiwrocratiaeth pellach. O hynny ymlaen, diddymwyd y swyddfa basport, a lluchiodd rhai dinasyddion eu pasbortau i’r môr. Defnyddiodd eraill nhw fel nodiadur neu lyfr darlunio. Credwn i o leiaf un pasbort gael ei ailbwrpasu fel papur tŷ bach.
Wrth iddi nosi ar y noson cyntaf honno yn y wlad newydd, daeth i feddyliau rhai o’r dinasyddion ei bod yn debygol iawn o fwrw glaw, ac y dylid cael rhyw fath o loches. Aeth y rhai callaf adref i’w tai. Roedd rhai wedi paratoi ar gyfer y math yma o beth, ac wedi dod a sachau cysgu, ac roedd gan un unigolyn arbennig o drefnus babell. Aeth y rhan fwyaf i mewn i’r cwt sinc, gan gamu’n sigledig o un trawst pydredig i’r llall, yn osgoi’r tyllau hunllefus yn y llawr. Cysgodd tri oedolyn a pedwar o blant mewn cwch rhwyfo tyllog oedd wedi bod yn gobeithio cael ei drwsio ers dros ugain mlynedd. Roedd y cwch yn falch o’r sylw, ond yn siomedig nad oedd dim o’r artistiaid yn saer coed o ran hyfforddiant.
Ar ôl noson anghyffyrddus, oer, a llaith, deffrodd y dinasyddion i wawr y dydd newydd yn llawn gobaith a brwdfrydedd. Roedd amgylchiadau yn galed, lle yn brin, tir ffrwythlon ddim i’w gael – doedd dim dŵr croew hyd yn oed. Ond roedd eu calonau yn llawn a’u ffydd yn gryf. Aeth rhai pobl ati i drwsio llawr y cwt, gan stwffio hen boteli plastig a bwyiau, bwngiau ac unrhyw sothach plastig arall islaw ‘er mwyn ynysiad thermal’. Aeth rhywun i Waitrose a dod yn ôl efo llond sach o grosonts. Daeth rhywun a llwyth o goed tân. Yn raddol, sefydlwyd rhywbeth a ymdebygai i wersyll ffoaduriaid, ble gellid mwynhau, ar unrhyw adeg o’r dydd, gyflwr o fod mewn argyfwng parhaus. Roedd pawb yn llawn angerdd a phwrpas, yn hoff iawn o’u gilydd, ac yn cydweld ar rhai pethau weithiau. Roedd rhai mwy i mewn i Fluxus na’u gilydd. Doedd rhai ddim yn gwybod beth oedd Fluxus. Roedd rhai yn gweld eu hunain mwy fel artistiaid proses, neu brotest, neu botes. Gofynwyd y cwestiwn ‘beth yma y dyliem ei adfer, ei drwsio, ei achub?”
Daeth nifer o atebion “FI!”
“Ein gilydd!”
“Ein perthynas a’r tir, y môr, popeth byw”
“Agweddau trefedigaethol at dir ac eiddo”
“Y cwt ‘ma”
“Y cwch ‘ma!”
Dechreuodd rhywun ysgrifennu sloganau ar y sinc rhydlyd mewn sialc gwyn
“Ynys Faelog i bawb!”
“Dim preifateiddio”
“Dim deddf, dim eiddo!”
Ar hynny, crwydrodd nifer o bobl drosodd i’r brif rhan o’r ynys, gan anwybyddu arwydd yn dweud ‘private’, agor giât oedd heb ei gloi, a cherdded o dan bont oedd yn rhan o bensaerniaeth od, difeddwl, brics brown y tŷ cyfagos, a ymddangosai i fod yn wag. Anwybyddwyd arwydd arall yn dweud ‘Private, keep out, danger, private property.’ Roedd hwn yn arwydd swyddogol iawn yr olwg, wedi ei glymu i ffens, gyda giât wedi ei gloi a chadwyn a chlo swmpus. Ond roedd y ffens yn fyr, a dim yn cyrraedd ochr arall y llwybr, a cerddwyd yn hawdd heibio iddo. Yr ochr draw i hyn, roedd adfail, safle adeiladu, tomen ysbwriel, rwbel, gwagle wedi gordyfu gan goed estron a gadwai’r haul rhag ddisgleirio ar y llanast islaw. Doedd o ddim yn lle addawol. Ond dyna gryfder artistiaid – creu rhywbeth allan o ddeunydd anaddawol. Felly dringodd rhai o’r plant i ben y goeden uchaf, ac erbyn diwedd y dydd roedden nhw wedi creu platfform, ac roedden nhw’n benderfynol o gysgu yno’r noson honno. Dywedodd eu mamau bod perygl iddyn nhw ddisgyn allan pe chwythai’r gwynt a siglo’r goeden, felly fe glymwyd y pedwar ifanc at eu gilydd ac i’r goeden gyda rhaff neilon las, ac yno y cysgasent, fel pedwar tylluan arloesol.
Parhaodd y wladwriaeth i ddatblygu yn ystod yr wythnos nesaf, gyda gwelliannau i’r cwt a’r tŷ coeden. Aeth rhywun ati i ddiwyn dŵr, ond doedd ‘na ddim ar wahân i’r Fenai hallt ei hun. Plannodd rhywun dysen, fel gweithred symbolaidd o obaith. Creuwyd gwisg genedlaethol o blastig môr a gwymon, gyda phenwisg o blu gwylan. Arbrofodd rhai pobl gyda paratoi a bwyta gwymon, aeth eraill ati i gasglu cregyn gleision, cocos a molysgau eraill. Dywedodd rhai pobl na ddylid bwyta cyd-ddinasyddion, ond ddadleuodd y pysgotwyr cocos eu bod yn casglu’r cocos gyda pharch ac anrhydedd, a’n bod yma i fwyta ac i gael ein bwyta.
“Sgenai’m ffansi bwyta chdi” meddai’r llysieuydd wrth y pysgotwraig cocos “ti’n fwd i gyd”
Derbyniodd pawb o’r cychwyn y byddai’r economi yn seiliedig ar y sector greadigol, ac y byddai’n rhaid mewnforio’r rhan fwyaf o adnoddau eraill. Roedd rhai pobl yn gadael pob diwrnod i fynd i’w swyddi ar y tir mawr, yn y byd go iawn, neu ar blanedau cyfagos. Roedd pawb yn oer, ac yn fwdlyd, ond yn weddol siriol y rhan fwyaf o’r amser.
Ond yna i ganol dedwyddwch artistig y wladwriaeth newydd daeth dau ysbeilwr anghyfarwydd. Daethant mewn cwch rhwyfo un prynhawn, yn drewi o skunk ac yn cario bagiau Lidl yn llawn cwrw rhad. Cawsent groeso, a thysen wedi ei dûo mewn tân broc mor, ac fe rhannent eu cwrw a’u jôcs amheus. Pobl gwrywaidd oeddent, gyda digon o brofiad o brifysgol bywyd. Wedi ymddiddan am amser, a deall natur y gwersyll (oedd, erbyn hyn wedi datblygu polyn totem, gweithdy print, caffi ac ysgol anffurfiol) gofynnodd un o’r ysbeilwyr newydd
“What about them houses?”
“O wel, ia. Rhywun piau’r rheina. Dydan ni ddim yn gwybod pwy” meddai rhywun
“What? You call yourselves revolutionaries?”
“Dydw i ddim yn cofio i ni ddatgan erioed mai chwyldro ydi hyn. Mwy fel rhyw fath o arbrawf mewn bywyd cymunedol yn ystod cyfnod o argyfwng. Ymateb creadigol i’r amgylchiadau sydd ohonni.”
“Whatever. Dave, you game?”
A gyda hynny, fe dorrwyd y ffenestr cyntaf.
Wedi hynny, roedd bywyd yn well, yn yr ystyr bod byw mewn tŷ yn llawer haws na byw mewn cwt bylchog, rhydlyd sy’n llenwi efo dŵr ar lanw uchel. Ond yn waeth, yn yr ystyr bod rhywun wedi crybwyll y fandaliaeth wrth yr heddlu. Cyn hynny, roedd yr awdurdodau wedi bod yn eithaf goddefgar o’r gwersyll. Roedd yn flêr, ac yn swnllyd, ond roedd y rhan fwyaf o’r gwersyllwyr yn ferched efo acenion da, ac yn medru ymddwyn yn ddigon normal pan fo angen. Roedd y wladwriaeth yn tipyn o atyniad i ymwelwyr, ac er yn dechnegol anghyfreithlon, cyn belled nad oedd neb yn gwneud cwyn swyddogol, doedd dim angen mwy na rhybudd bob diwrnod neu ddau. Ond pan feddianwyd y tai, fe aeth hi’n stori arall.
O hynny allan roedd hi’n Eviction Notices ac yn Arrest Warrants i gyd. Cafwyd achosion llys swrealaidd gyda’r cyhuddedig yn amddiffyn eu hunain gyda gosodiadau fel:
“Im zentrum des fluxus wird sich ein weg zum überleben auftun. Das haben wir gelernt als wir der kunst den rücken zudrehten”
“Nid yw’r llys hwn yn gweithredu trwy’r iaith Almaeneg” meddai’r barnwr
“Ac nid yw Neue Walisiche Kunst yn cydnabod awdurdod y llys hwn!” Meddai’r diffinnydd
“Yr oll ydym ni eisiau’i wneud yw rhyddhau myngegiant oddi wrth orfodaeth ystyr. Rydym wedi datgan llywodraeth Buoycaidd ar Ynys Faelog, Ynys Fach, Ynys gafaelog, gafaelgar, dychmygol, gripping, fascinating, imaginary, Heiligenstäte des Fluxus, Epistemisches Zentrum, Ynys Afaelog. Mae’r gyfraith yn Fuoycaidd, Buoyant, Arnofiol. Ni ellir ei wyrdroi hyd oni ddaw i ben ohonno’i hun. Fydd hwyrach cyn gynted ac y mae wedi ei ddatgan, os nad ynghynt. Hoffech chi, eich mawrarglwyddiaeth, eich grâs, syr, fod yn ddinesydd yn ein gwladwriaeth dychmygol, honedig, byr-hoedlog? Mae croeso i bawb, boed eu llygaid yn groes neu eu bod yn mynnu gwisgo wig wirion a siwt ystlum.”
“Tawelwch!” Rhuodd y dyfarnwr, gan daro’r ddesg a’i forthwyl tila ond swnllyd. “Neu fydd gen i ddim dewis ond eich cael chi’n euog o ddirmygu’r llys.”
“Aeog! Eog! Taeog!” Gwaeddodd y diffinnydd yn hapus. Llwyddodd i osgoi cyfnod o garchar trwy honni ei bod yn rhesymegol ac yn ei hiawn bwyll, oedd yn dystiolaeth digonol ei bod yn gwbl dw-lal a tu hwnt i bob rheswm.
Yn y cyfamser, eisteddai gweddillion carpiog dinasyddion dewr Ynys Faelog o amgylch tân myglyd yn trafod methiant.
“Does dim byd ydw i eisiau’i adfer na’i drwsio” meddai un.
“Na! Mae o’n berffaith fel mae o!” Meddai arall.
“Pydru ‘mlaen” Meddai’r trydydd.
“Mae rhinwedd mewn pydredd,
mae rhwd yn beth da,
gadewch i ni eistedd,
a sugno da-da.
Da da da da da da da da da da da,
o bydded i’r pydredd barhau!”
Y noson honno, a’r artistiaid ynghwsg yn y sied bydredig, a’r lleuad llawn yn disgleirio rhwng y bylchau yn y tô, fe ddaeth hi’n llanw mawr. Grwniodd y sied, a gyda sŵn sugno a llepian daeth ei sylfaeni pydredig yn rhydd o’u gwely mwd, a chododd yn sigledig i arnofio ar y dŵr, y bwyau a’r sothach plastig o dan y llawr yn ei chynnal. Ac wrth i lif yr afon sgubo heibio i’r ynys, fe gludwyd y sied sinc ymaith, heibio i gastell Caernarfon, heibio ynys Llanddwyn ac allan i’r môr Iwerydd, gyda’i chriw o artistiaid ynghwsg fel hadau tu mewn.
Ac fel y rhagwelodd yr artist a fu o flaen ei gwell, fe ddaeth yr arbrawf i ben, gwta ddwy awr ar ôl dechrau.