Back to All Events

Dehongli'r Dyffryn: Llwybrau'r Merched. Llanberis

Efo Elin Tomos

Rhan o Stori’r Tir

Mae dylanwad y diwydiant llechi yn drwm ar ddyffryn Peris ond wrth bori trwy lyfrau hanes a lluniau o’r cyfnod buan iawn y gwelwch mai nodi cyfraniad y dynion i’r diwydiant a wneir gan amlaf.

Rwy’n grediniol mai dim ond trwy chwilio a gwrando ar leisiau gwragedd, gweddwon, merched a chwiorydd y chwarelwyr y mae modd gwneud cyfiawnder â hanes y bröydd llechi.

Mi fydd ‘Dehongli’r Dyffryn: Llwybrau’r Merched’ yn daith gerdded ryngweithiol fydd yn edrych ar y profiad benywaidd o fyw yn Nyffryn Peris yn ystod oes aur y diwydiant llechi. Y bwriad ydy canolbwyntio ar hanes pum person, a hynny mewn pum lleoliad a fu’n arwyddocaol yn ystod eu bywydau. Unigolion digon cyffredin oedden nhw i gyd yn y bôn - ond mae cofnod hanesyddol ohonynt wedi goroesi am eu bod wedi ymddwyn yn ‘anghyffredin’ neu’n groes i ddisgwyliadau eu hoes ar ryw bwynt yn eu bywydau. Dw i eisiau annog y rheiny sy’n ymuno â’r daith i roi eu hunain yn esgidiau’r rhai sy’n cael eu trafod- ac i ddilyn yn ôl eu traed yn llythrennol.

This event is through the medium of Welsh

Previous
Previous
15 September

Gweithdy Adrodd Stori’r Tir : Telling the Story of the Land Workshop

Next
Next
21 September

"Siop y Cabinet Chwilfrydig" - Cabinet of Curiosities Shop, Bangor