Tri Gwahoddiad - Three Invitations!


Siarter y Coed, Coedwig yn dod i Pontio: Charter of the Trees, Forest Comes to Pontio, 2023

Agoriad Arddangosfa Cynrychioli'r Gyfraith - Representing Law Exhibition Opening 3.9.24

Dan ni’n falch iawn fydd y Siarter y Coed Utopias Bach a ffilm Cysylltu yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio Bangor, o 3-29 Medi, fel rhan o Gynhadledd Pwyllgor Ymchwil ‘Cynrychioli’r Gyfraith’ ar Gymdeithaseg y Gyfraith (RCSL) ym Mhrifysgol Bangor 3-6 Medi.

We’re really proud that Utopias Bach’s Charter of the Trees and Cysylltu film will be shown in Bangor Pontio Arts and Innovation Centre, from 3-29 September as part of the 'Representing Law' Research Committee on the Sociology of Law (RCSL) Conference at Bangor University 3-6 September.

Ymuno â ni yn yr Agoriad - Join us at the opening!

Pontio, Bangor 17.30 - 1900 Nos Fawrth 3.9.24 Tuesday

 

 

Sgwrs Chwilgar - Curious Conversation.

Sgwrs Chwilgar - Curious Conversation Storiel, Bangor 14.9.24 - 19.10.24

Utopias Bach + Carreg Creative

Mae gweithgaredd celf cyfoes yn aml yn cynnwys elfen o ymwneud neu gydweithio gyda pobl a chymunedau y tu hwnt i furiau orielau. Gall hyn, yn aml, arwain at greu arteffactau/gweithiau celfyddydol – megis sgwrs, perfformiad, ffilm, gwaith sain neu osodiad arall o rhyw fath. Weithiau bydd rhain yn bodoli ochr yn ochr â’r gwaith celfyddydol y mae artistiaid yn ei gyflawni fel unigolion. Gall y mathau hyn o arteffactau neu weithiau ‘cydweithredol’ fod yn anodd i’w cynnwys neu eu cynrychioli o fewn ‘cabinet’ – boed hwnnw yn gabinet rhithiol (fel gwefan Celf ar y Cyd) neu gabinet go iawn (fel yr un yn Storiel), neu yn wir yn ‘gabinet’ y byd celf yn ei gyfanrwydd.

Mae ein gosodiad, ein perfformiadau a’n cardiau post yn eich gwahodd chi i fod yn rhan o’n sgwrs chwilgar sy’n adlewyrchu ar natur a lleoliad celf ymgysylltiol – [sut i fynd] i mewn ac allan o’r cabinet?

///

The ‘outside the gallery’ nature of engaged contemporary practice often results in artefacts/art works as a parallel strand of collaborative, embodied activity which encompasses conversation, performance, film, sound and installation. These are difficult to ‘contain’ or represent within a ‘cabinet’, whether the cabinet of a website (Celf ar y Cyd) or a physical cabinet (at Storiel) and even within the ‘cabinet’ of the art world as a whole.

Our installation, performances and postcards at Storiel, Bangor 14.9.24 - 19.10.24 invite you to be part of our ongoing Curious Conversation, reflecting on the nature and location of engaged art – [how to get] into and out of the cabinet’?

Ymuno â ni yn yr Agoriad - Join us at the opening!

Storiel, Bangor 15.9.24

 

Canthrig Bwt: Wanda Zyborska/Lindsey Colbourne 2024

Gweithdy Adrodd Stori’r Tir: Telling the Story of the Land Workshop 15.9.24

Efo Claire Mace (Stori’r Tir)

2yh/pm-5yh/pm, Neuadd Goffa Bethel, 2 Rhos, Bethel, LL55 1YE

[scroll down for English]

Mae adrodd straeon yn gelfyddyd hynafol a hudolus, ac yn ddirgelwch i ni’r bodau dynol modern sydd mor gaeth i sgrin ein ffonau symudol.

Ond mae modd dysgu’r sgiliau i strwythuro stori fel ei bod yn bleserus i’w rhannu a gwrando arni.

Yn y gweithdy hwn, byddwch chi’n dysgu sgiliau syml a fydd yn eich helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth rannu eich stori, trwy gyfres o gemau ac ymarferion syml.

Does dim angen i chi fod yn llenor, yn ddarllenwr neu’n berfformiwr. Dyma bethau syml y gall unrhyw un eu dysgu!!

Dewch ag unrhyw stori yr hoffech chi ei hadrodd gyda chi, neu ddeunydd ymchwil neu brofiad yr hoffech chi eu troi’n stori.

Mae croeso i bawb, p’un a ydych chi wedi bod i ddigwyddiad “Stori’r Tir Dyffryn Peris” o’r blaen, neu’n newydd i’r prosiect.

Gallwch weithio ar eich stori yn Gymraeg, Saesneg – neu hyd yn oed heb eiriau, drwy gyfrwng cerddoriaeth neu ddawns neu sgiliau crefft.

Digwyddiad am rhad ac yn ddim fel rhan o brosiect “Stori’r Tir Dyffryn Peris”.

Storytelling is an ancient and magical art, a mystery to us modern humans glued to our mobile phones.

But the skills to structure a story so that it is enjoyable to share and listen to are learnable!

In this workshop you'll learn straightforward tools that will help you feel more confident in sharing your story, through a series of simple games and exercises.

You don't need to be a writer, a reader or a performer. This is simple stuff anyone can learn!!

Bring along any story you'd like to tell, or some research or experiential material you'd like to synthesise into a story.

All welcome, whether you've been to a "Stori'r Tir Dyffryn Peris" event before, or are new to the project.

You can work on your story in Welsh, English - or even without words, through music or dance or craft skills.

This is a free event as part of the “Stori’r Tir Dyffryn Peris” project.


Previous
Previous

Agoriad Arddangosfa Sgwrs Chwilgar: Curious Conversation Exhibition Opening. 14.9.24 13.00 - 14.00

Next
Next

Cipolwg - Nano News