Utopias Bach - Revolution in Miniature

View Original

Utopias Bach – Eglurhad Aneglur

Gan Seran Dolma, Awdur Preswyl Utopias Bach

Mae gyda ni argyfwng.  Nifer o argyfyngau.  Argyfyngau yn gorgyffwrdd ac yn plethu ac yn bwydo ar eu gilydd.  Nythaid o argyfyngau, fel nadroedd Oroboraidd neu gwlwm Gordia.  Argyfwng newid hinsawdd, argyfwng difodiant rhywogaethau, argyfwng iechyd meddwl, argyfwng ffydd mewn democratiaeth, argyfwng ffydd o unrhyw fath, argyfwng gwasanaethau cyhoeddus, argyfwng cyfiawnder a thecwch.  Pandemig. 

Mae’r goleuadau yn fflachio, a’r seirenau’n seinio.  Mae hyn yn seriws.  Mae pobl yn marw.  Mae plant yn dioddef.  Mae’r fforestydd o goed hynafol olaf yn diflannu rŵan hyn, o dan ein trwynau, ar y sgrîn.  Mae’r heddlu yn camdrîn pobl ddu, yn eu llofruddio, rwan hyn, o dan ein trwynau, ar y sgrîn.   

 

Ond ar yr un pryd, yn ein rhan ni o ogledd Cymru, mae’r clychau’r gog yn blodeuo, y coed yn deilio, y defaid yn wyna.  Mae hi’n bwrw glaw.  Mae Mis mai yn oer.  Mae bywyd yn mynd yn ei flaen, er gwaetha pawb a phopeth, ac mae argyfyngau yn medru teimlo’n bell i ffwrdd i’r rhai ohonom sy’n ddigon breintiedig i fod wedi’n hynysu rhag y fath bethau.  Yn ddigon pell i deimlo fel problem rhywun arall.  Cenhedlaeth arall.  Gwlad arall.  Mae’n anodd cymryd pethau o ddifrif, pan mae nhw’n digwydd yng nghledr dy law, ar sgrîn mor fach.  Ond mae’n anodd eu hanwybyddu yn gyfan gwbl chwaith.  Felly rydan ni’n hogian, mewn rhyw fath o rhyng-fyd rhyngrwydiol, ein sylw ar wasgar, yn teimlo bach yn paranoid, yn gwybod bod ‘na rhywbeth o’i le, ond yn methu deall beth i wneud am y peth.  Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig atebion – prynnwch y treinyrs ‘ma.  Mae nhw wedi gwneud allan o wastraff afal pîn, neu bambŵ, neu plastig wedi ei hel o’r môr.  Mi wneith fyd o wahaniaeth, dim ond i ti brynnu’r peth iawn, mi fyddi di’n gyflawn, yn brydferth, dy gydwybod yn lân.  Y gwaed i gyd ar ddwylo rhywun arall.

 

Dydan ni ddim yn wirion.  Rydan ni’n gwybod bod rhywbeth mwy sylfaenol yn bod na’n bod ni wedi bod yn defnyddio’r math anghywir o siampŵ ar gyfer ein teip ni o wallt.  Ond argian, edrychwch gwell mae o’n edrych.  Edrychwch ar y cyrls!  Edrychwch sgleiniog ydi o!  Pam bod neb wedi dweud hyn wrtha i o’r blaen?  A beth ydych chi’n disgwyl i mi wneud am Gaza?  Does gen i ddim pres i’w roi ar gyfer gwaith dyngarol, mae fy incwm i wedi diflannu.  Oce, mi wnai arwyddo deiseb, dydi hynny’n costio dim byd.  Ond ydi o’n gwneud unrhyw wahaniaeth?  Www... Sbîa ciwt!  Cath mewn bocs! 

 

So...  Pam celf?  Pam Utopias Bach?

 

Y peth da am gelf ydi does dim rhaid i ti gael atebion.  Does dim hyd yn oed rhaid i ti gael y cwestiwn.  Gei di fod mor ddi glem ac wyt ti, a fydd neb yn beriniadu.  Hefyd, rwyt ti’n rhydd i arbrofi.  Does dim rhaid i ti gymryd unrhyw beth o ddifrif, na meddwl dy fod di’n iawn.  Geith dy feddwl di fod yn hollol agored, mor amhendant a niwl, wedi drysu’n lân, ac mi gei di groeso.  Yn fan hyn, beth bynnag. 

 

Os wyt ti’n poeni am bethau mawr, ond yn teimlo’n fach, ni ‘di dy bobl di.  Os ydi pethau fel morgrug a mwsogl yn bwysig i ti, dyma’r lle i ti.  Os wyt ti’n rhyfeddu at brydferthwch y dafnau gwlith a’r wyrth ymhlyg ymhob egin, ond yn methu gwneud synnwyr o’r newyddion, tyrd i mewn. 

 

Os oes gen ti syniad, mae hynna’n wych!  Syniad rhyfedd, rhywbeth fasa ddim yn ffitio mewn ymgynghoriad ar ddatblygu’r cynllun adfywio lleol?  Gorau oll!  Rhywbeth i wneud efo hadau, a pridd, a sêr?  Gwych!  Rhywbeth i wneud efo cerfluniau?  Coed?  Paent?  Gwastraff niwclear?  Rhyddid?  Oes plîs!  Oes rhaid i ti fod yn artist?  Na!  Oes rhaid i ti fod yn ‘greadigol’?  Na!  Oes rhaid i ti fedru cyfiawnhau dy hun o flaen panel o arholwyr?  Na!   Beth os does gen ti ddim syniad?  Wel mae hynna’n ok hefyd, ar ôl deg munud yn y cwmni yma, fyddi di’n berwi o syniadau.  Neu ella ddim, fydd o ddim ots.  Does dim pwysau i gynhyrchu allbynnau gweladwy, na thicio bocsys, na chydymffurfio.  Na bod yn waci, nac yn secsi nac yn avant garde.  Jyst bydda’n pwy wyt ti, licia be ti’n licio.  Cysyllta efo ni.  Mae ‘na le i bawb yn y blanhigfa mefus!